Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Ebrill 2012

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ar gyfer ystyried Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru)

1.    Ar 23 Ebrill 2012, cafodd Bil Llywodraeth, ‘Bil Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru), ei gyflwyno yn y Cynulliad.  

2.    Ar 27 Mawrth 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes, yn unol â Rheol Sefydlog 26.9, i gyfeirio’r Bil at y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc, i ystyried yr egwyddorion cyffredinol a chyflwyno adroddiad arnynt.

3.    Yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, trefnodd y Pwyllgor Busnes amserlen i’r Pwyllgor ystyried egwyddorion cyffredinol y Bil a chytunodd y dylai’r Pwyllgor gyflwyno adroddiad i’r Cynulliad erbyn 12 Hydref 2012.

4.    Cytunodd y Pwyllgor hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 7 Rhagfyr 2012, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.